Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2019

Amser: 09.17 - 10.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5071


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David J Rowlands AC (Cadeirydd)

Janet Finch-Saunders AC

Mike Hedges AC

Neil McEvoy AC

Leanne Wood AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Ross Davies (Dirprwy Glerc)

Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc)

Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

Estynnodd y Cadeirydd bob cydymdeimlad ar ran y Pwyllgor i deulu a ffrindiau'r diweddar Steffan Lewis AC a fu farw ar 11 Ionawr 2019, a gwahoddodd y Pwyllgor i gymryd ennyd o amser i fyfyrio'n dawel.

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-853 Na i gau Cyffordd 41 o gwbl

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn pa asesiad a wnaed o effaith bosibl cynnydd mewn allyriadau o gerbydau ar hyd ffyrdd lleol pe bai Cyffordd 41 yn cael ei chau'n rhannol neu'n gyfan gwbl, ac a gasglwyd y data perthnasol ar allyriadau fel rhan o'r cyfnod prawf pan gaewyd y gyffordd yn flaenorol.

 

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

 

</AI4>

<AI5>

2.3   P-05-858 Taenellwyr Dŵr i arbed bywydau nid i wneud arian!

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar ymateb Llywodraeth Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach o ran y ddeiseb.

</AI5>

<AI6>

2.4   P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n gynghorydd lleol ac mae wedi ymwneud ag achosion unigol.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

o   Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ar y ddeiseb, rhagor o wybodaeth am yr argymhellion perthnasol a wnaeth yn Adroddiad Blynyddol 2017/18 ac ymateb Llywodraeth Cymru, a'i barn am alwad y deisebydd am leoedd lle gall plant fynd i ddianc rhag camdriniaeth rywiol; a'r

o   Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pa gyfleusterau sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer diogelu plant sy'n rhoi gwybod am gamdriniaeth rywiol ac yn dianc rhagddi;

o   Gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a yw'r adolygiad o wasanaethau cynghori a sefydlwyd gan y Prif Weinidog blaenorol yn parhau.

</AI6>

<AI7>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI7>

<AI8>

3.1   P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

 

</AI8>

<AI9>

3.2   P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

 

</AI9>

<AI10>

3.3   P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg er mwyn:

 

 

</AI10>

<AI11>

3.4   P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

mae wedi gweithio fel athro cyflenwi yn y gorffennol.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

o   ofyn am ymateb i'r cwestiynau pellach a ofynnwyd gan y deisebwyr;

o   gofyn iddi egluro pam nad yw'n meddwl ar hyn o bryd y byddai'n addas cael trefniant sector cyhoeddus rhanbarthol neu leol o ran darparu athrawon cyflenwi; a

 

</AI11>

<AI12>

3.5   P-05-848 Rhowch gyfle i Fyfyrwyr Cymru ddewis yr opsiwn astudio gorau ar eu cyfer hwy

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil yr ymateb diamwys a gafwyd gan y Gweinidog Addysg a'r ffaith ei bod hi'n debyg nad oes gobaith gwirioneddol o newid yr agwedd hon ar bolisi cyllido myfyrwyr.

 

</AI12>

<AI13>

3.6   P-04-648 Ceisiadau cynllunio nwy ac olew anghonfensiynol

Trafododd y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig ar y Polisi Echdynnu Petrolewm a chytunodd i ofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gadarnhau bod y Pwyllgor wedi deall yn gywir y byddai unrhyw gais newydd am drwydded i echdynnu petrolewm yn cael ei 'alw i mewn' gan Lywodraeth Cymru pe bai'r awdurdod lleol perthnasol yn bwriadu ei gymeradwyo.

 

</AI13>

<AI14>

3.7   P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Datganodd Janet Finch Saunders y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Bu'n gweithio ym maes gwerthu anifeiliaid anwes yn y gorffennol.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am bapur briffio ar y gwahaniaethau rhwng y rheoliadau ar werthu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru a Lloegr.

 

</AI14>

<AI15>

3.8   P-05-816 Dywedwch ‘NA’ i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru

Tafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gau'r ddeiseb am fod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu peidio ag ymestyn unrhyw brydlesi ar gyfer hawliau saethu ffesantod ar ôl iddynt ddod i ben ym mis Mawrth 2019, yn dilyn ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.  Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am longyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.

</AI15>

<AI16>

3.9   P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

 

</AI16>

<AI17>

3.10 P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i'w hanfon at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn gofyn am ei barn ar y materion a godwyd, a gofyn am gopi o'r adolygiad ynghylch atal ac ymchwilio i droseddau bywyd gwyllt yng Nghymru.

 

</AI17>

<AI18>

3.11 P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

 

 

</AI18>

<AI19>

3.12 P-05-846 Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd i wahodd y deisebwyr i gyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol i drafod eu pryderon ynghylch cynigion yn ymwneud ag Ysbyty Tywysog Philip yn fanylach.

 

</AI19>

<AI20>

3.13 P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis.

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae ganddo deulu a ffrindiau sy'n gweithio yn y diwydiant tacsis.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynglŷn â'r ddeiseb a chytunodd i anfon y wybodaeth a gafwyd gan y deisebwyr at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Papur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, a gofyn:

 

</AI20>

<AI21>

3.14 P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae ganddo deulu a ffrindiau sy'n gweithio yn y diwydiant tacsis.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynglŷn â'r ddeiseb a chytunodd i anfon y wybodaeth a gafwyd gan y deisebwyr at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Papur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, a gofyn:

 

</AI21>

<AI22>

3.15 P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol

Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae wedi defnyddio gwasanaeth FNF Both Parents Matter Cymru yn y gorffennol.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Arweinydd y Tŷ ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

 

</AI22>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>